Newidydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dyfais drydanol yw newidydd (enw gwrywaidd) sy'n trosglwyddo egni rhwng dwy gylched drwy anwythiad electromagnetig. Gellir defnyddio newidydd yn saff ac yn effeithiol i newid foltedd AC yn foltedd uwch (neu is) heb newid ei amledd. Caiff hefyd ei ddefnyddio i drawsnewid cerrynt, i drawsnewid y rhwystriant neu fel ynysydd.

Caiff ei ffurfio, fel arfer, allan o ddau goil o weiar: cynradd ac eilradd. Llifa cerrynt eiledol (alternating electric current) drwy'r coil cynradd gan greu maes magnetig yn y craidd haearn. Caiff y maes magnetig hwn ei drosglwyddo gan yr haearn i'r coil eilaidd. Mae'r coil eilaidd wedyn yn creu (neu'n hytrach yn 'ysgogi') fflwcs magnetaidd yng nghraidd y newidydd. Mae'r maes electromagnetig hwn, yn ei dro, o fewn trwch blewyn i'r coil eilradd yn ysgogi grym electromotif ynddo. Ymddengys hyn ar ffurf foltedd ar draws rhan ola'r newidydd sef y terfynell drydan.
Ni all newidydd weithredu heb gerrynt uniongyrchol.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads