OPEC

From Wikipedia, the free encyclopedia

OPEC
Remove ads

Corff rhyngwladol o gynhyrchwyr olew yw OPEC (o'r Saesneg: Organization of the Petroleum Exporting Countries neu'n Gymraeg, Cyfundrefn Gwledydd Allforio Petroliwm). Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC, sydd yn ceisio dylanwadu ar bris olew crai rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...
Thumb
Baner OPEC
Thumb
Pencadlys OPEC yn Fienna

Sefydlwyd OPEC ar 14 Medi 1960 yn Baghdad (Irac), gyda'r syniad yn dod o Feneswela. Yr aelodau gwreiddiol, heblaw Feneswela ac Irac, oedd Sawdi Arabia, Iran a Coweit. Yn ddiweddarach, daeth gwledydd eraill yn aelodau, er i rai adael wedyn: Catar (1961), Indonesia (1962-2008), Libia (1962), Emiradau Arabaidd Unedig (1967), Algeria (1969), Nigeria (1971), Ecwador (1973-1992 a dod yn aelod eto Tachwedd 2007), Gabon (1975-1994) ac Angola (2007). Mae'r pencadlys yn Fienna ers 1965.

Aelodau cyfredol y Corff (yn 2019) yw: Aljeria, Angola, Coweit, Ecwador, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Gini'r Cyhydedd, Gabon, Iran, Irac, Gweriniaeth y Congo, Libia, Nigeria, Arabia Sawdi (arweinydd de fact), a Feneswela. Mae Indonesia a Catar yn gyn-aelodau.[1] Mae'r 14 gwladwriaeth (ym Medi 2018) yn gyfrifol am 44% o gynnyrch olew y byd ac 81.5% o gronfeydd "profiedig" o olew'r byd.

Nid yw pob gwlad sy'n cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelod o OPEC; nid yw Canada, Mecsico, Norwy, yr Unol Daleithiau, Rwsia ac Oman yn aelodau.

Thumb
Aelodau OPEC mewn glas tywyll. Mae Gabon ac Indonesia (glas golau) wedi gadael OPEC.
Remove ads

Cwotâu Olew Cyfredol

Rhagor o wybodaeth Valstybė, Cwota (7/1/05) ...

(Noder nad yw Catar nag Indonesia bellach yn aelod o OPEC).

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads