One Corpse Too Many

From Wikipedia, the free encyclopedia

One Corpse Too Many
Remove ads

Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw One Corpse Too Many ("Un Corff yn Ormod") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1979. Dyma'r ail nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Awdur ...

Mae'r Brenin Stephen yn cipio Castell Amwythig ac yn crogi yr holl amddiffynwyr sydd wedi goroesi. Mae Cadfael, mynach o Abaty Amwythig gerllaw, yn dod o hyd corff dyn a lofruddiwyd ynghudd ymhlith y lladdedigion. Mae’n rhaid iddo hefyd helpu merch ifanc i ddianc o’r gwarchae, a darganfod y rhesymau dros weithredoedd ei dyweddi dyweddedig, Hugh Beringar.

Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1994.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads