Pab Ffransis
pab rhwng 2013 a 2025 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig rhwng 2013 a 2025 oedd Ffransis (ganwyd Jorge Mario Bergoglio; 17 Rhagfyr 1936 – 21 Ebrill 2025). Ef oedd y Pab cyntaf o America Ladin, a'r Iesuwr cyntaf i arwain yr Eglwys Gatholig.[1][2]
Fe'i ganwyd yn Buenos Aires, yr Ariannin, yn fab i Mario Jose Bergoglio a'i wraig Regina Maria Sivori. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Buenos Aires ac yng ngholeg diwinyddol Villa Devoto.[3]
Remove ads
Marwolaeth
Roedd y Pab yn dioddef o afiechyd ysgyfaint cronig. Aeth i'r ysbyty ar 21 Chwefror gyda anhwylder a ddatblygodd i niwmonia dwbl. Treuliodd 38 diwrnod yno cyn ei ryddhau o'r ysbyty ar 23 Mawrth. Gwnaeth ei ymddangosiad cyhoeddus olaf ar ddydd Sul y Pasg, 20 Ebrill 2025. Bu farw yn 88 mlwydd oed am 07:35 CEST ar 21 Ebrill 2025, yn ei gartref yn Domus Sanctae Marthae.[4]
Angladd
Cymerodd yr angladd le ar 26 Ebrill 2025. Roedd y Pab Ffransis eisiau symleiddio'r drefn a dewisodd arch syml.[5][6] Roedd pobl o Gymru ymhlith y rhai a aeth i Rufain i weld y trafodion.[7] Roedd llawer o bobl bwysig yn bresennol, gan gynnwys y Tywysog Cymru[8]; Keir Starmer, prif weinidog y DU; John Swinney, prif weinidog yr Alban[9]; Michelle O'Neill, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon[10]; Felipe VI, brenin Sbaen; Carl XVI Gustaf, brenin Sweden; Arlywydd Volodymyr Zelenskyy a'i wraig Olena; Michael D. Higgins, Arlywydd Iwerddon; Joe Biden, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, a'i wraig Jill Biden[11]; ac arlywydd presennol yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
|
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

