Parot

From Wikipedia, the free encyclopedia

Parot
Remove ads

Adar o'r urdd Psittaciformes yw parotiaid. Mae tua 372 o rywogaethau o barot sy'n perthyn i dri theulu: Strigopidae (parotiaid Seland Newydd fel y Cea a'r Cacapo), Cacatuidae (y cocatŵod) a Psittacidae (parotiaid eraill). Ceir y mwyafrif ohonynt mewn fforestyddd a choetir yn rhanbarthau cynnes y byd, yn enwedig Awstralasia a De America.

Ffeithiau sydyn Parotiaid, Dosbarthiad gwyddonol ...

Maent yn amrywio o 9 hyd 100 cm o ran maint. Mae rhai ohonynt yn lliwgar iawn tra mae eraill yn wyrdd neu frown. Mae ganddynt big bachog a thraed cryf gyda dau fys troed yn pwyntio ymlaen a dau sy'n pwyntio yn ôl.

Mae llawer ohonynt yn anifeiliaid anwes poblogaidd, yn arbennig y Byji. Adar deallus yw parotiaid a gall rhai ohonynt, megis Parot Llwyd Affrica, efelychu lleferydd dynol a synau eraill.

Remove ads

Cyfeiriadau

  • Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
  • World Bird Names (2009) Parrots Archifwyd 2013-12-05 yn y Peiriant Wayback, Fersiwn 2.3.

Dolenni allanol

Thumb
Galaod (Eolophus roseicapilla)
Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads