Pen-clawdd
pentref a chymuned yn Sir Abertawe From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref yng nghymuned Llanrhidian Uchaf, Sir Abertawe, Cymru, yw Pen-clawdd[1][2] ( ynganiad ; weithiau Penclawdd). Fe'i lleolir ar benrhyn Gŵyr ger yr arfordir gogleddol, rhwng Crofty i'r gorllewin a Thre-gŵyr i'r dwyrain, tua 3 milltir i'r de-orllewin o dref Gorseinon. Saif y pentref ar lan aber afon Llwchwr, yn wynebu ar Lanelli dros y bae. Mae'n enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth yno.
- Am y pentref yn Sir Fynwy, gweler Pen-y-clawdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[4]
Ganwyd y cyfansoddwr Karl Jenkins yn y pentref ar 17 Chwefror 1944.

Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads