Penglog

From Wikipedia, the free encyclopedia

Penglog
Remove ads

Fframwaith esgyrnog neu gartilagaidd pen y fertebratau ydy penglog, a hwnnw'n rhoi ffurf ac amddiffyniad i'r pen. Yn ogystal ag amddiffyn yr ymennydd yn y pen rhag niwed mae siâp y benglog yn pennu pellter y llygaid oddi wrth ei gilydd ac yn lleoli'r clustiau yn y fath fodd fel y gall y clyw farnu cyfeiriad a phellter sŵn.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Remove ads

Mae dwy ran iddi sef y creuan (craniwm) ac asgwrn yr ên (genogl, mandibl). Creuanogion yw'r cordogion hynny sydd â chreuan ac fe'i defnyddir fel cyfystyr am ‘fertebratau’ mewn rhai trefnau dosbarthu. Ymhellach isrannir y creuan yn badell yr ymennydd (niwrocraniwm) ac yn sgerbwd yr wyneb (fiscerocraniwm) sy'n cynnwys cwpanau esgyrnog yr organau synhwyro.

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads