Piso

From Wikipedia, the free encyclopedia

Piso
Remove ads

Mae Piso neu wneud dŵr yn rhan o'r system iwrein pan fo'r corff dynol (a llawer o anifeiliaid eraill) yn cael gwared o ddŵr o'r corff. Mae "piso" yn hen air Cymraeg a ddefnyddir yn naturiol iawn am y weithred yma o gael gwared â dŵr o'r corff. Ceir hefyd geiriau gwneud am y weithred o biso gan gynnwys "ysgarthu", a grewyd gan ysgolheigion o'r gair "carthu" gan eu bont yn credu fod angen dau gasgliad gwahanol o eiriau: geiriau llafar naturiol a geiriau gwahanol ar gyfer y byd meddygol ac academia. Fel arfer mae dyn yn sefyll i biso a merch yn eistedd neu'n mynd ar ei chwrcwd.

Thumb
Merch yn piso

Yn ôl traddodiad, mae piso cynta'r bore yn beth da i wella pigyn clust; felly hefyd dail cypreswydden.

Remove ads

Adeilad pwrpasol i'r gorchwyl

Ym mhob adeilad drwy'r byd ceir llefydd arbennig i biso a elwir yn lle chwech neu'n "dŷ bach". Arferent fod y tu allan i'r adeilad ond yn y rhan fwyaf o wledydd gwâr mae'r lle chwech y tu fewn i'r adeilad.

Gwrthrychau i dderbyn y piso

Thumb
Dau bo pi-pi o Ffrainc.

Mae'r "po pi-pi" yn declyn a ddefnyddir fel arfer i gasglu piso dros nos a'i wagio'n y bore. Y lle arferol i'w gadw yw o dan y gwely - cyn i wlâu (neu welyau) "difan" gyrraedd!

Dywediadau

Ceir llawer o ddywediadau'n cynnwys y gair gan gynnwys:

  • Piso sy'n fater pwysig
  • Rhy hwyr codi pais ar ôl piso
  • Cred rhai fod cyffwrdd blodyn dant y llew yn peri i chi wlychu'r gwely a gelwir y blodyn hwn (fel ag yn y Ffrangeg hefyd) fel "Blodyn Pi-pi'n y Gwely".

Piso fel arwydd o sarhau person

Thumb
Cartwn yn awgrymu fod yr arfer o dreisio carcharorion rhyfel yn ddigwyddiad dyddiol gan aelodau o fyddinoedd Prydain ac Unol Daleithiau America.

Yn Ionawr 2012 cywilyddiwyd y byd gan luniau graffig o bedwar o "marines" yr Unol Daleithiau'n piso ar gyrff tri dyn yn Afghanistan; credir mai aelodau o'r Taliban oedd y meirwon.[1]

Delweddau graffig

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads