Priam
brenin Caerdroea From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ym mytholeg Roeg, Priam (Hen Roeg: Πρίαμος) oedd brenin Caerdroea yn ystod Rhyfel Caerdroea yn erbyn y Groegiaid; mae'n gymeriad yn yr Iliad.

Roedd Priam yn fab ieuengaf i Laomedon. Ei wraig gyntaf oedd Arisbe, a roddodd fab o'r enw Aesacus iddo, oedd wedi marw cyn Rhyfel Caerdroea. Ysgarodd Priam hi, a phriododd Hecuba, a roddodd nifer o blant iddo. Yr hynaf oedd Hector; ymhlith y gweddill roedd Paris, y broffwydes Cassandra a Creusa, gwraig Aeneas.
Pan leddir Hector gan Achiles yn y rhyfel, mae Zews yn gyrru'r duw Hermes i ddanfon Priam i wersyll yr Acheaid, i erfyn arno ddychwelyd corff ei fab. Cytuna Achiles i'e gais. Pan syrth dinas Caerdorea, lleddir Priam gan Neoptolemus, mab Achiles.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
