Prostad

From Wikipedia, the free encyclopedia

Prostad
Remove ads

Chwarren sy'n rhan o'r organau cenhedlu gwryw yw'r prostad[1][2].

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

'Gwarchodwr' neu 'geidwad' ydy ystyr prostad (o'r gair Groeg προστάτης - prostates). Chwarren gyfansawdd ecsocrin ydyw (hynny yw 'compound tubuloalveolar exocrine gland') a rhan bwysig o system atgenhedlu mamaliaid gwryw. Nid oes gan fenywod neu mamaliaid benyw eraill brostad.

Mae'r prostad yn wahanol mewn gwahanol rywogaethau, yn wahanol o ran ei anatomi, yn gemegol ac o ran ei ffisioleg.

Remove ads

Ei bwrpas

Prif bwrpas y prostad yw storio a secretu hylif clir gyda pH o 7.29; mae'r hylif hwn o ran cyfaint rhwng 10-30% o'r hylif hadlifol (semenol) sydd ynghyd â'r sberm yn gwneud y semen. Mae gweddill yr hylif yn dod o'r ddau fesicl hadlifol. Mae'r hylif hadlifol, fel y dywedir, ychydig yn alcalïaidd, ac felly'n niwtraleiddio hylif asidig y wain (fagina) sy'n hwyhau oes y sberm.

Mae gan y prostad hefyd ychydig o gyhyrau llyfn sy'n help i alldaflu'r semen ar eiliad yr orgasm.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads