Raffaello Sanzio
arlunydd a phensaer Eidalaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Arlunydd a phensaer Eidalaidd oedd Raffaello Sanzio, weithiau Raffaello Santi, a adwaenir fel rheol fel Raffael (28 Mawrth neu 6 Ebrill 1483 – 6 Ebrill, 1520). Ystyrir ef, gyda Michelangelo a Leonardo da Vinci, yn un o'r triawd o feistri o'r cyfnod yma yn yr Eidal. Er iddo farw yn gynharol ieuanc, yn 37 oed, roedd yn arlunydd cynhyrchiol iawn, ac mae llawer o'i waith wedi ei gadw, yn enwedig yn y Fatican.
Ganed ef yn Urbino yng nghanolbarth yr Eidal. Roedd ei dad, Giovanni Santi, yn arlunydd i Ddug Urbino. Bu farw ei fam, Màgia, yn 1491, a'i dad yn 1494. Rhwng 1504 a 1508 bu'n astudio a gweithio yn Fflorens, cyn treulio ei ddeuddeg mlynedd olaf yn Rhufain, lle bu'n gweithio i ddau Bab.
- Croeshoeliad Gavari (1502–1503)
- Priodas y Forwyn Fair (Lo Sposalizio)
- Sant Siôr a'r Ddraig
- Allor Ansidei (tua 1505)
- Madonna y maes (tua 1506)
- Santes Catrin o Alecsandria (1507)
- Ysgol Athen (1509–1511), Stanza della Segnatura
- Yr offeren yn Bolsena (1514), Stanza di Eliodoro
- Dihangfa Sant Pedr (1514), Stanza di Eliodoro
- Tân yn y Borgo (1514), Stanza dell'incendio del Borgo
- Gwyrth y Pysgod (1515)
- Y Gweddnewidiad (1520) heb ei orffen pan fu farw
- Portread o Elisabetta Gonzaga (tua 1504)
- Portread o Baldassare Castiglione (tua 1515)
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
