Refferendwm
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Refferendwm yw pleidleisio ar ddeddfwriaeth benodol gan yr etholaeth gyfan i'w derbyn neu'i gwrthod. Gall fod ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol neu leol.
Yn y DU cafwyd refferendwm ar aelodaeth o'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (yr EEC, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd bresennol). Yng Nghymru a'r Alban cynhaliwyd refferenda ar sefydlu siambrau etholedig datganoliedig yn 1979 a 1997. Yng Nghymru ei hun cafwyd sawl 'refferendwm' neu bôl lleol (ar lefel y sir) dros y blynyddoedd ar bwnc llosg Cau'r Tafarnau ar y Sul.
Yn yr Unol Daleithiau mae rhai taleithiau yn caniatau math o refferendwm a elwir yn initiative, lle gall unigolyn neu grŵp o ddinesyddion ddrafftio cynnig ar bwnc penodol yn ymwneud â llywodraeth y dalaith ac, os ceir digon o lofnodion ar ddeiseb, ei roi o flaen yr etholwyr i bleidleisio arno.
Remove ads
Gweler hefyd
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017
- Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2014
- Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014
- Refferendwm Catalwnia 2014
- Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011
- Refferendwm datganoli i Gymru, 1997
- Refferendwm datganoli i Gymru, 1979
- Polau yfed ar y Sul yng Nghymru
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads