Rhiwallon ap Cynfyn
brenin Powys From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Rhiwallon ap Cynfyn (1025? - 1070) yn frenin Gwynedd a Powys ar y cyd gyda'r frawd Bleddyn.
Remove ads
Bywgraffiad
Roedd Rhiwallon yn fab i Cynfyn ap Gwerstan, brenin Powys. Yn 1063 wedi i Gruffydd ap Llywelyn golli brwydr i Harold Godwinson a chael ei ladd gan ei wyr ei hun, derbyniodd Rhiwallon a Bleddyn deyrnas Gwynedd gan Harold.
Dair blynedd yn ddiweddarach lladdwyd Harold gan y Normaniaid ym Mrwydr Hastings, a chyn hir yr oeddynt ar ororau Cymru. Ymunodd Rhiwallon a Bleddyn a gwyr Mersia i ymosod ar y Normaniaid.
Yn 1070 ceisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gymeryd y deyrnas oddi ar y ddau frawd. Ym mrwydr Mechain y flwyddyn honno lladdwyd dau fab Gruffydd, ond lladdwyd Rhiwallon hefyd, gan adael Bleddyn i deyrnasu ei hun ar Wynedd a Phowys.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads