Richard Howell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Trydydd Llywodraethwr New Jersey o 1793 hyd 1801 oedd Richard Howell (25 Hydref 1754 – 28 Ebrill 1802).
Ganwyd Howell yn Newark, Delaware. Roedd yn efaill i'w frawd Lewis Howell ac yn un o un ar ddeg o blant Ebenezer Howell, ffermwr, a Sarah (Bond) Howell, Crynwyr a ymfudodd o Gymru i Delaware tua 1724. Roedd Richard Howell yn gyfreithiwr ac yn filwr ym Myddin (cynnar) yr Unol Daleithiau. Gwasanaethodd fel capten ac yn nes ymlaen fel uwchgapten yn Rhyfel Annibyniaeth America yn 2il Gatrawd New Jersey o 1775 hyd 1779.
Remove ads
Dolenni allanol
- (Saesneg) Bywgraffi Llyfrgell Talaithol New Jersey am Richard Howell Archifwyd 2011-08-12 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) New Jersey Governor Richard Howell Archifwyd 2012-01-17 yn y Peiriant Wayback, Cymdeithas Genedlaethol Llywodraethwyr
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

