Rhisga

tref yn Fwrdeistref Sirol Caerffili From Wikipedia, the free encyclopedia

Rhisga
Remove ads

Tref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Rhisga[1] (Saesneg: Risca).[2] Fe'i rhennir rhwng y ddwy gymuned Gorllewin Rhisga a Dwyrain Rhisga. Daw'r enw o'r Gymraeg Wenhwyseg "'r Is Ca'" am "Yr Is Cae".

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Mae'n gorwedd ar ochr dde-ddwyreiniol Maes Glo De Cymru ac roedd pwll glo yn y dref ar un adeg. Er ei bod yn un o drefi mwyaf y fwrdeistref sirol, mae ar ddechrau'r Cymoedd ac mae mynyddoedd gwyrdd o'i chwmpas. Mae mynyddoedd llawn coedwigoedd, gan gynnwys Mynydd Machen (1,188 troedfedd / 362m) a Thwmbarlwm i'r dwyrain (1,375 troedfedd / 419m).

Thumb
Tai teras yn Rhisga

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lindsay Whittle (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ruth Jones (Llafur).[3][4]

Mae côr meibion llwyddiannus yn y dref a nifer o lwybrau cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n mynd ar hyd y gamlas a thros y mynydd. Lleolir amgueddfa ddiwydiannol fach yn y dref a chlwb rygbi hefyd.

Roedd tafarn y "Welsh Oak" ar ochrau deheuol pentref Pont-y-Meistr, sydd bellach yn cael ei ystyried fel rhan o dref Rhisga, yn ymgullfan i'r Siartwyr, cyn iddynt orymdeithio i Gasnewydd.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads