Rocky

ffilm ddrama llawn cyffro gan John G. Avildsen a gyhoeddwyd yn 1976 From Wikipedia, the free encyclopedia

Rocky
Remove ads

Ffilm ddrama am baffio yw Rocky (1976). Fe'i hysgrifennwyd gan ac yn serennu Sylvester Stallone. Cyfarwyddwyd y ffilm gan John G. Avildsen. Adrodda hanes Rocky Balboa, sy'n dilyn y Freuddwyd Americanaidd. Chwarae Stallone rhan casglwr dyledion caredig sy'n gweithio i fenthyciwr arian diegwyddor yn Philadelphia. Mae Balboa hefyd yn ymladdwr mewn clybiau sy'n cael cyfle ym mhencampwriaeth pwysau trwm y byd pan mae'r cystadleuydd arall yn torri ei law.

Ffeithiau sydyn Poster y Ffilm, Cyfarwyddwr ...

Gwnaed y ffilm am $1.1 miliwn, swm cymharol fechan, ac fe'i ffilmiwyd mewn 28 niwrnod. Gwnaeth y ffilm dros $117.2 miliwn yn y swyddfa docynnau, ac enillodd dair Oscar gan gynnwys y Ffilm Orau. Derbyniodd y ffilm feirniadaethau canmoladwy a daeth Stallone yn un o brif ser Hollywood. Arweiniodd y ffilm at bum ffilm ddilynol: Rocky II, Rocky III, Rocky IV, Rocky V, a Rocky Balboa.

Remove ads

Dolenni allanol

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads