Rudyard Kipling

llenor a bardd Seisnig (1865-1936) From Wikipedia, the free encyclopedia

Rudyard Kipling
Remove ads

Awdur a bardd yn yr iaith Saesneg a anwyd ym Mumbai (Bombay) India oedd Joseph Rudyard Kipling (30 Rhagfyr 186518 Ionawr 1936). Roedd yn awdur cynhyrchiol ac mae nifer o'i straeon a nofelau'n lleoledig yn India. Mae'n enwocaf am ei lyfrau straeon i blant The Jungle Book (1894) a Just So Stories (1902). Cyhoedd hefyd y straeon byrion yn Plain Tales from the Hills (1888), y nofel Kim (1901), a'r cerddi "Gunga Din" ac "If—" yn y gyfrol Barrack Room Ballads and Other Verses (1892).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Am beth amser ar ôl ei farwolaeth, roedd yn amhoblogaidd mewn cylchoedd llenyddol oherwydd ei fod yn ymddangos ei fod yn amddiffyn "Imperialaeth Orllewinol" a'r Ymerodraeth Brydeinig yn neilltuol. Roedd yn fwyaf poblogaidd yn yr 1900au ac fe'i wobrwyd â Gwobr Llenyddiaeth Nobel yn 1907 y person ieungcaf i ennlil y wobr ydyw.

Fe gynigwyd y teitlau "Syr" a "Llenor-fardd Prydeinig" iddo, ond fe wrthododd.

Remove ads

Teulu

Hanna Jones oedd ei Nain, merch o Ddinbych a aned yn 1809. Pan oedd yn ferch ifanc, aeth i Fanceinion lle priododd y Parch George Brown Macdonald, gweinidog gyda'r Wesleiaid. Cawsant saith o ferched a phedwar bachgen. Un o'r merched oedd Georgina a briododd Edward Burne-Jones, yr arlunydd a chyfaill i William Morris. Dwy arall o ferched Hanna a George oedd Louisa a briododd berchennog gwaith haearn, ac aelod seneddol, sef Alfred Baldwin, ac Alice a briododd John Lockwood Kipling. Ar lan Llyn Rudyard, yn Swydd Stafford y cyfarfu Alice a John a phan gawsant fab, galwyd efo yn Rudyard Kipling.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Nofelau

  • The Light That Failed (1890)
  • Captains Courageous (1897)
  • Kim (1901)

Storïau

  • Plain Tales from the Hills (1888)
  • The Story of the Gadsbys (1888)
  • The Phantom 'Rickshaw and Other Tales (1888)
  • Under the Deodars (1888)
  • Wee Willie Winkie and Other Child Stories (1888)
  • Life's Handicap (1991)
  • Many Inventions (1893)
  • The Jungle Book (1894)
  • The Second Jungle Book (1895)
  • The Day's Work (1898)
  • Stalky & Co. (1899)
  • Just So Stories (1902)
  • Traffics and Discoveries (1904)
  • Puck of Pook's Hill (1906)
  • Actions and Reactions (1909)
  • Rewards and Fairies (1910)
  • Debits and Credits (1926)
  • Limits and Renewals (1932)

Barddoniaeth

  • Departmental Ditties (1886)
  • Barrack-Room Ballads (1892)
  • The Seven Seas (1896)
  • The Five Nations (1903)
  • The Years Between (1919)

Hunangofiant

  • Something of Myself (1937)
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads