Salvador Allende
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd o Tsile a wasanaethodd fel arlywydd ei wlad o 3 Tachwedd 1970 hyd ei farwolaeth oedd Salvador Guillermo Allende Gossens (26 Mehefin 1908 - 11 Medi 1973). Fe'i ganed yn Valparaiso.
Remove ads
Gyrfa wleidyddol
Ymddiddorai Allende mewn gwleidyddiaeth yn ddyn ifanc, a chafodd ei arestio sawl gwaith yn ystod ei amser fel myfyriwr am iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau radicalaidd. Cynorthwyodd i sefydlu Plaid Sosialaidd Tsile, plaid Farcsaidd annibynnol a ddilynai lwybr gwahanol i'r Blaid Gomiwynyddol a oedd yn dilyn llwybr yr Undeb Sofietaidd. Cafodd ei ethol i Siambr Dirprwyon Tsile yn 1937, gwasanaethodd fel gweinidog iechyd am dair blynedd ac fel seneddwr o 1945 hyd 1970.
Safodd dair gwaith am yr arlywyddiaeth - yn 1952, 1958 a 1964 - ond heb lwyddiant. Yn 1970 llwyddodd gyda mwyafrif bychan i ddod yn arlywydd Tsile a chychwynodd ar raglen radicalaidd asgell chwith i greu cymdeithas sosialaidd mewn fframwaith llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad. Ond wynebai wrthwynebiad eang gan elfennau grymus yn y sector preifat a byd busnes ; cefnogai llywodraeth yr Unol Daleithiau'r gwrthwynebwyr a rhoddwyd y CIA ar waith yn y wlad i helpu tanseilio llywodraeth Allende. Ym mis Medi 1973, cafwyd coup milwrol yn ei erbyn a sefydlwyd junta militaraidd dan arweiniad y Cadfridog Augusto Pinochet. Bu farw cannoedd o bobl yn yr ymladd. Lladdwyd Allende yn y brwydro i gipio'r Palas Arlywyddol yn Santiago, prifddinas Tsile.
Yn y misoedd ar ôl lladd Allende, ffôdd cannoedd o bobl, yn cynnwys nith Allende, y nofelydd Isabel Allende, i geisio lloches yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads