Ysgrifen gynffurf
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
System ysgrifennu aflinol sy'n tarddu o Fesopotamia'r henfyd yw ysgrifen gynffurf (hefyd cŷn-ysgrifen, arysgrif gynffurf).[1][2] Cafodd symbolau ar ffurf cŷn eu hysgythru ar lechi clai gan ddefnyddio ysbrifbin trionglog.


Ymddangosodd ysgrifen ym Mesopotamia tua 3500 CC. Yn wreiddiol, arwyddion rhif a phictogramau oedd symbolau cynffurf, er defnydd gweinyddiaeth ariannol. Yn hwyrach datblygodd yr arwyddion i ddynodi synau, megis gwyddor lythrennau. System sillafol a logograffig yw'r ysgrifen gynffurf aeddfed: defnyddir y mwyafrif o arwyddion am air, ambell arwydd am sill, cyflenwadau seinegol i ddynodi ynganiad, a phenderfynyddion i ddynodi ystyr geiriau. Mae tua 500 o wahanol lythrennau. Daeth yr Aramaeg yn brif iaith lafar Mesopotamia tua diwedd y milflwyddiant cyntaf CC. Bu farw'r ysgrifen gynffurf tua'r 2g OC.
Defnyddid yr ysgrifen gynffurf ym Mesopotamia i ysgrifennu'r Swmereg, ac yn hwyrach yr Acadeg (a rennir yn ddwy dafodiaith: yr Asyrieg yn y gogledd a'r Fabiloneg yn y de). Yn hwyrach cafodd ei fabwysiadu gan ddiwylliannau eraill i ysgrifennu sawl iaith yn y Dwyrain Canol, gan gynnwys yr Hetheg, yr Elameg, yr Hen Berseg a'r Wrarteg.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads