Shingon
ysgol Bwdhaeth yn Japan From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Enwad Japaneaidd sy'n cyfuno Bwdhaeth gyfriniol ag elfennau o Shintō, crefydd genedlaethol Japan, ynghyd â phwyslais pantheistiaidd, yw Shingon (眞言, 真言, "Y Gair/Geiriau Cywir"). Gyda Bwdhaeth Tibet, mae'n ffurfio un o ddwy gangen fawr Bwdhaeth Vajrayana.

Cafodd ei sefydlu yn 816 gan yr athronydd a llenor Kūkai (774 - 835). Roedd Kūkai yn un o brif ffigyrau bywyd ymenyddol y cyfnod Heian a'r Siapanwr cyntaf i ysgrifennu Tsieineeg lenyddol o safon uchel, ffrwyth ei daith i Tsieina rhwng 804 ac 806. Ar ôl dychwelyd i Japan cododd fynachlog ar fynydd Kōyasan, tua 50 milltir i'r de o Heian Kyo (Kyoto heddiw) yn 816. Heddiw mae Kōyasan yn ganolfan grefyddol fawr sy'n denu pererinion ac ymwelwyr o bob cwrdd o'r wlad a'r tu hwnt i brofi'r lletygarwch arbennig a geir yn y mynachlogydd Shingon niferus a geir yno.
Remove ads
Canghennau Shingon

- Kōyasan (高野山)
- Chisan-ha (智山派)
- Buzan-ha (豊山派)
- Daikakuji-ha (大覚寺派)
- Daigo-ha (醍醐派)
- Shingi
- Zentsuji-ha
- Omuro-ha
- Yamashina-ha
- Sennyūji-ha
- Sumadera-ha
- Kokubunji-ha
- Sanbōshū
- Nakayadera-ha
- Shigisan
- Inunaki-ha
- Tōji
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
