Sidi Daoud
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref fechan nad yw'n llawer mwy na phentref mawr ond sy'n un o borthladdoedd pysgota pwysicaf Tiwnisia yw Sidi Daoud.
Gorwedd yn y Cap Bon ar lan ddwyreiniol Gwlff Tiwnis, tua hanner ffordd rhwng Korbous ac El Haouaria, tua 60 km i'r dwyrain o'r brifddinas, Tiwnis.
Mae'n gartref i fflyd o gychod pysgota. Ceir ffatri prosesu yno sy'n cyflenwi pysgod tun - tiwna a sardîns yn bennaf - i'r farchnad yn Nhiwnisia a thramor.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

