Simon de Montfort

gwleidydd (1208-1265) From Wikipedia, the free encyclopedia

Simon de Montfort
Remove ads

Ffrancwr oedd Simon de Montfort, 6ed Iarll Caerlŷr, (12084 Awst 1265). Ef oedd mab ifanca Simon de Montfort, 5ed Iarll Caerlŷr ac yn un o'r bobl allweddol yn y gwrthwynebiad barwnol i Harri III, brenin Lloegr. Priododd ag Elin, chwaer Harri III.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Hanes

Roedd ei fam yn etifeddes i Iarllaeth Caerlŷr ac ystad fawr yn Lloegr.

Roedd yn filwr caled a diwyro ac yn weinyddwr medrus. Daeth i wrthdaro â'r brenin oherwydd i'r brenin fethu ymateb i'r anfodlonrwydd cynyddol yn y wlad oherwydd nifer o bethau gan gynnwys newyn. Fe enillodd frwydr bwysig yn erbyn y brenin yn 1264 ond wedyn fe wnaeth Edward I, Brenin Lloegr ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Evesham, yn 1265. Yn gynharach yn y flwyddyn honno arwyddodd Gytundeb Pipton i selio'r cynghrair rhyngddo â Llywelyn ap Gruffudd.

Daeth Elinor de Montfort, merch Simon ac Elin, yn wraig i Llywelyn ein Llyw Olaf. Fe'i priodwyd yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn 1278. Bu Elin farw yn 1281 gan adael un ferch sef Gwenllian, nad oedd ond baban. Ar ôl i'w thad gael ei ladd rhoddodd ei chefnder Edward I, brenin Lloegr, Gwenllian yn Lleiandy Sempringham, Swydd Lincoln. Bu farw yn 1337 yn 56 blwydd oed.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads