Socrates

athro, athronydd, ysgrifennwr From Wikipedia, the free encyclopedia

Socrates
Remove ads

Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.

Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohono, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.

Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.

Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o gegid.

Remove ads

Ffynonellau

  • D. James Jones, Hanes Athroniaeth: Y Cyfnod Groegaidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939), pennod "Socrates", tt.54–77

Darllen pellach

  • Bettany Hughes. The Hemlock Cup: Socrates, Athens and the Search for the Good Life (Jonathan Cape, 2010).
  • Plato. Amddiffyniad Socrates, cyfieithwyd o'r Roeg gan D. Emrys Evans. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1936)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads