Soldier Blue

ffilm ddrama am y Gorllewin gwyllt gan Ralph Nelson a gyhoeddwyd yn 1970 From Wikipedia, the free encyclopedia

Soldier Blue
Remove ads

Mae Soldier Blue yn ffilm Western Americanaidd a gynhyrchwyd yn 1970, wedi ei chyfarwyddo gan Ralph Nelson, sy'n adrodd hanes ffuglennol digwyddiadau yn 1864 seiliedig ar hanes gwir Cyflafan Sand Creek yn Nhiriogaeth Colorado, UDA.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Lliw/iau ...

Sgriptiwyd y ffilm gan John Gay yn seiliedig ar y nofel Arrow in the Sun gan Theodore V. Olsen, ac mae'n serennu Candice Bergen, Peter Strauss, a Donald Pleasence. Perfformiwyd y gân deitl gan Buffy Sainte-Marie.

Remove ads

Cynllun

Wedi ei rhyddhau ar anterth Rhyfel Fietnam yn erbyn cefndir y achos tribiwnlys milwrol yn deillio o Gyflafan My Lai, cyflwynodd y ffilm yr adroddiad sinematig cyntaf o un o'r digwyddiadau mwyaf drwgenwog yn hanes rhyfeloedd yr Unol Daleithiau ar bobloedd brodorol Gogledd America, pan gyflawnodd milwyr yn perthyn i filisia talaith Colorado dan arweiniad y Colonel John M. Chivington gyflafan yn erbyn pentref diamddiffyn o bobl Cheyenne ac Arapaho ar wastadeddau dwyreiniol Colorado. Lladdwyd rhai cannoedd o Indiaid, y rhan fwyaf ohonynt yn ferched, plant a henoed.

Mae hanes y gyflafan yn cael ei osod ar gefndir ffuglennol am hanes goroeswyr ymosodiad gan Indiaid ar uned o filwyr Marchoglu'r Unol Daleithiau.

Remove ads

Ffilm ddadleuol

Thumb
Rhybudd mewn sinemau

Roedd y ffilm yn ddadleuol ar y pryd nid yn unig oherwydd ei phwnc fel revisionist Western, ond am ei phortread graffig iawn o drais. Aeth y cyfarwyddwr Nelson, sy'n ymddangos yn y ffilm ei hun, i lefelau newydd amlwg yn ei bortread o drais, gan ddangos golygfeydd o drais rywiol realistig ynghyd â golygfeydd brwydr sy'n dangos bwledi'n taro cyrff a merched a phlant yn cael eu cigyddu'n ddidrugaredd gan filwyr.

Remove ads

Credydau

Avco Embassy Pictures, 1970

  • Cynhyrchydd - Harold Loeb a Gabriel Katzka
  • Cynhyrchydd Gweithredol - Joseph E. Levine
  • Cyfarwyddwr - Ralph Nelson
  • Gwaith sgrîn - John Gay
  • Cerddoriaeth - Roy Budd

Cast

Thumb
Peter Strauss
Thumb
Jorge Rivero
  • Kathy Maribel Lee - Candice Bergen
  • Honus Gent - Peter Strauss
  • Isaac Q. Cumber - Donald Pleasence
  • Colonel Iverson - John Anderson
  • Spotted Wolf - Jorge Rivero
  • Captain Battles - Dana Elcar
  • Lieutenant McNair - Bob Carraway
  • Lieutenant Spingarn - Martin West
  • Private Menzies - James Hampton
  • Sergeant O'Hearn - Mort Mills
  • Running Fox - Jorge Russek
  • Indian Woman - Aurora Clavell
  • Agent Long - Ralph Nelson
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads