SpynjBob Pantsgwâr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants) yw'r enw Cymraeg ar gyfres deledu animeiddiedig Americanaidd am y cymeriad cartŵn o'r un enw, a'r cwmni cyfryngau sy'n ei chynhyrchu. Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu Nickelodeon.
Erbyn heddiw, darlledir SpynjBob ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y biolegydd morol ac animeiddiwr Stephen Hillenburg ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, United Plankton Pictures. Lleolir y gyfres yn y Cefnfor Tawel yn ninas Pant y Bicini (Saesneg: Bikini Bottom) a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar 1 Mai 1999, gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar 17 Mehefin yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â DVDau a dwy ffilm hir.
Remove ads
Darlledu Cymraeg
Dechreuodd y gyfres Gymraeg ar S4C ar 7 Medi 2011, ac mae ar gael drwy S4C Clic.
Gwahaniaeth o'r fersiwn Saesneg
Mae gan y dyblygu Cymraeg gyfanswm o 4 actor llais: Dewi Rhys Williams, Siân Naomi, Richard Elfyn a Rhys Parry Jones. ac yn ogystal â chael dyblygu Cymraeg, mae S4C hefyd yn dyblygu'r rhan fwyaf o destunau i'r Gymraeg a thrawsnewid swigod gwahanol.
Lleisiau Cymeriad a Chyfieithiadau mewn Cymraeg dyblyg
Gweler hefyd
- The SpongeBob SquarePants Movie - ffilm
- The SpongeBob Movie: Sponge Out of Water - ffilm 2015
- The SpongeBob Movie: Sponge on the Run - ffilm 2020
- Wici Spynjbob Pantsgwâr
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
