Sumba

From Wikipedia, the free encyclopedia

Sumba
Remove ads

Ynys yn Indonesia yw Sumba. Saif i'r de-ddwyrain o ynys Sumbawa, ac mae'n cael ei gwahanu oddi wrth ynys Flores gan Gulfor Sunda. I'r dwyrain mae ynys Timor. Mae arwynebedd yr ynys yn 11,153 km², a'r boblogaeth yn 611,422 (2005). Y dref fwyaf ar yr ynys yw Waingapu, gyda phoblogaeth o tua 10,000. Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Dwyrain Nusa Tenggara.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

O ran crefydd, mae tua 25% - 30% o'r boblogaeth yn animistiaid, a'r rhan fwyaf o'r gweddill yn Gristionogion. Mae'r ynys yn nodedig am fod yn un o'r ychydig leoedd yn y byd lle mae traddodiad o gladdu meirwon mewn cromlechi yn parhau.

Thumb
Lleoliad Sumba yn Indonesia
Thumb
Daearyddiaeth Sumba
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads