Surat

dinas, India From Wikipedia, the free encyclopedia

Surat
Remove ads

Porthladd yn nhalaith Gujarat yn India yw Surat (Gujarateg: સુરત). Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 2007 tua 4 miliwn. Sutat yw dinas ail-fwyaf Gujarat a'r nawfed o ran maint yn India. Saif y ddinas ar Afon Tapti.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Yn ôl traddodiad lleol, sefydlwyd y ddinas ym mlynyddoedd olaf y 15g. Yn 1514 disgrifiodd y teithiwr Portiwgeaidd Duarte Barbosa y ddinas fel porthladd pwysig. Yn ystod cyfnod Ymerodraeth y Mughal, Surat oedd porthladd pwysicaf yr ymerodraeth pan oedd Akbar, Jahangir a Shah Jahan ar yr orsedd.

Prif ddiwydiannau Surat yw tecstitlau a diewmwntau; caiff 92% o ddiemwntau'r byd eu torri a'u gloywi yn Surat. Yn y blynyddoedd diwethaf mae tŵf economaidd Surat wedi bod ymhlith yr uchaf yn India, 11.5% yn 2008.

Thumb
Fersiwn llai o Dŵr Eiffel, Surat
Remove ads

Dolennau allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads