Swydd Amwythig (awdurdod unedol)

awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Amwythig From Wikipedia, the free encyclopedia

Swydd Amwythig (awdurdod unedol)
Remove ads

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Swydd Amwythig (Saesneg: Shropshire) neu (er mwyn gwahaniaethu rhwng yr awdurdod a'r swydd seremonïol) Cyngor Swydd Amwythig.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Mae gan yr ardal arwynebedd o 3,197 km², gyda 323,136 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Telford a Wrekin i'r dwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Gaer i'r gogledd, Swydd Stafford i'r dwyrain, Swydd Gaerwrangon i'r de-ddwyrain, Swydd Henffordd i'r de, Powys i'r gorllewin a Bwrdeistref Sirol Wrecsam i'r gogledd-orllewin.

Thumb
Awdurdod unedol Swydd Amwythig yn sir seremonïol Swydd Amwythig

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 2009. Cyn y dyddiad hwnnw roedd Swydd Amwythig yn sir an-fetropolitan wedi'i rhannu yn bum ardal an-fetropolitan: Bwrdeistref Croesoswallt, Bwrdeistref Amwythig ac Atcham, Ardal Bridgnorth, Ardal Gogledd Swydd Amwythig ac Ardal De Amwythig. (Cyn 1998 roedd Telford a Wrekin (dan yr enw The Wrekin) hefyd wedi bod yn ardal an-fetropolitan yn y sir an-fetropolitan, ond daeth yn awdurdod unedol annibynnol ar y sir yn y flwyddyn honno.)

Rhennir yr awdurdod yn 201 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Lleolir pencadlys yr awdurdod yn nhref Amwythig. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bridgnorth, Broseley, Cleobury Mortimer, Clun, Craven Arms, Croesoswallt, Church Stretton, Yr Eglwys Wen, Ellesmere, Llwydlo, Market Drayton, Much Wenlock, Shifnal, Trefesgob a Wem.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads