Unedau imperial

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Casgliad o unedau a ddiffiniwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Pwysau a Mesurau Lloegr o 1824 yw'r system o unedau imperial. Cyflwynwyd yr unedau yn y Deyrnas Unedig a'i threfedigaethau, gan gynnwys gwledydd y Gymanwlad (er bod y rhan fwyaf o'r wledydd hyn yn fetrig yn swyddogol), ond nid yn yr Unol Daleithiau, a oedd eisoes yn annibynnol bryd hynny.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Rhan o ...
Remove ads

Mesurau hyd

Ar ôl 1 Gorffennaf 1959, fe ddiffiniwyd llath yr Unol Daleithiau a’r llath Brydeinig yn unfath (0.9144m) fel y llath ryngwladol.

Rhagor o wybodaeth Uned, Gwerth cymharol i’r llath ...
Remove ads

Mesurau arwynebedd

1 erw = 1 ystaden × 1 gadwyn = 1/640 o filltir sgwâr = 43,560 o droedfeddi sgwâr = ~0.4047 ha (hectarau) = ~4047 m²

Mesurau cyfaint

Yn 1824, mabwysiadodd Prydain y galwyn imperial, a fu'n seiliedig ar gyfaint 10 lb o ddŵr distylledig wedi'i bwyso mewn awyr â phwysau pres, a'r baromedr yn sefyll wrth 30 inHg (modfeddi o fercwri) â thymheredd o 62 °F. Newidiodd Deddf Pwysau a Mesurau o 1985 ddiffiniad galwyn i 4.54609L yn union.

Rhagor o wybodaeth Uned, Gwerth cymharol i'r peint ...

Mesurau pwysau a màs

Rhagor o wybodaeth Uned, Gwerth cymharol i'r pwys ...

Sylwer bod y dunnell Brydeinig yn hafal i 2240 o bwysi ("y dunnell hir"), sy'n agos iawn i'r dunnell fetrig, er bod y dunnell a ddefnyddir yn gyffredinol yn yr Unol Daleithiau yn hafal i 2200 o bwysi ("y dunnell fer", sef 907.184 74 kg).

Remove ads

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads