Tennessee
talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Tennessee yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n Ddwyrain, Canolbarth a Gorllewin Tennessee. Yn Nwyrain Tennessee ceir ardal o fryniau coediog; mae Canolbarth Tennessee (Middle Tennessee), drofa ar Afon Tennessee, yn ardal o lwyfandir ucheldirol a bryniau, ac mae Gorllewin Tennessee yn ardal o gorsydd a thir isel sy'n gorwedd rhwng Afon Tennessee ac Afon Mississippi. Brwydrai Prydain Fawr a Ffrainc am feddiant o'r ardal yn yr 17g a daeth dan reolaeth Prydain. Cafodd ei datgan yn diriogaeth yn 1790 a daeth yn dalaith yn 1796. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America. Bu'n dyst i anghydfod sifil yn y 1960au; saethwyd Martin Luther King ym Memphis yn 1968. Nashville yw'r brifddinas.

Remove ads
Mewnfudo o Gymru
Yn dilyn y Rhyfel Cartref symudodd 104 teulu Cymraeg o Pennsylvania i Ddwyrain Tennessee - i ran o'r enw Mechanicsville, a rhan o ddinas Knoxville. Fe'u cyflogwyd gan y brodyr Joseph a David Richards (a John H. Jones)i weithio mewn ffatri metal. Roedd y brodyr wedi sefydlu Gwaith Haearn Knoxville gerllaw rheilffordd yr "L&N Railroad", ar safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel safle ar gyfer "1982 World's Fair". Mae'r hen ffwndri, a ddefnyddir heddiw fel tŷ bwyta, yn dal i sefyll; yr unig ddarn.
Codwyd capel Cymraeg ganddynt, gyda'r Parchedig Thomas Thomas yn weinidog arnynt yn 1870. Gwerthwyd y capel yn 1899.
Daeth y gwladychwyr Cymreig hyn yn llwyddiannus iawn yn yr ardal gan sefydlu sawl busnes arall yn y ddinas, gan gynnwys y cwmni oedd yn gyfrifol am greu cerbydau rheilffordd, cwmni llechi (a thoi), cwmni marmor a sawl cwmni gwneud dodrefn. Erbyn 1930 roedd plant y teuluoedd wedi lledaenu drwy'r ddinas a siroedd eraill megis Swydd Sevier. Heddiw, mae dros 250 teulu'n olrhain eu hachau i'r mewnfudwyr cyntaf hynny ac maent yn parhau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Remove ads
Dinasoedd Tennessee
| 1 | Memphis | 662,897 |
| 2 | Nashville | 626,681 |
| 3 | Knoxville | 178,874 |
| 4 | Chattanooga | 167,674 |
| 5 | Clarksville | 132,929 |
| 6 | Soddy-Daisy | 11,530 |
Dolenni allanol
- (Saesneg) www.tennessee.gov
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

