Tennyn

math o feinwe sy'n cysylltu asgwrn ag asgwrn From Wikipedia, the free encyclopedia

Tennyn
Remove ads

Mae tennyn, gewyn neu ligament, mewn anatomeg, yn cyfeirio at dri math o strwythur o fewn y corff:

  1. Meinwe gyswllt ffibrog sy'n cysylltu esgyrn ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol", "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau".
  2. Plyg y peritonewm neu bilen arall.
  3. Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod ffoetaidd o fywyd.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tendon.

Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term 'tennyn'.

Desmoloeg yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r Hen Roeg δεσμός, desmos, "tant" neu "llinyn"; a -λογία, -logia.

Remove ads

Tennynau peritonewm

Cyfeirir at rhai o blygiau'r peritonewm fel tennynau.

Mae esiamplau yn cynnwys:

  • Y tennyn hepatoduodenal, sy'n amgylchynu'r gwythïen porth hepatig a llestri eraill fel maent yn teithio o'r dwodenwm i'r iau.
  • Mae tennyn llydan y groth hefyd yn blyg yn y peritonewm.
  • Tennyn cynhaliol yr ofari

Tennyn gweddill ffoetaidd

Cyfeirir at rhai strwythurau tiwbaidd sy'n weddill o'r cyfnod ffoetaidd fel tennynau ar ôl iddynt gau a throi i mewn i drwythrau tebyg i linyn:

FfoetwsOedolyn
ductus arteriosusligamentum arteriosum
Rhan rhagorol-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetwsligamentum teres hepatis ("tennyn crwn yr iau").
Rhan mewn-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws (y ductus venosus)ligamentum venosum
Rhannau distal rhydweli wmbilig chwith a dde y ffoetwsmedial umbilical ligaments
Remove ads

Tennyn cymalol

Yn y ffurf a gyfeirir ato gan amlaf, rhwymyn byr o meiwe gysylltol rheolaidd dwys sy'n galed a ffibrog yw tennyn . Cyfansoddir yn bennaf o ffibrau hir llinynnog colagen. Mae tennynau'n cysylltu esgyrn at esgyrn eraill i ffurfio cymal. (Nid ydynt yn cysylltu cyhyrau â'r esgyrn, tendonnau sy'n gwneud hyn.) Mae rhai tennynau'n cyfyngu rhai symudiadau, neu'n atal eraill yn gyfan gwbl.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads