Texas

talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Texas
Remove ads

Un o daleithiau deheuol Unol Daleithiau America yw Texas neu yn Gymraeg Tecsas.[1] Yn ôl poblogaeth ac arwynebedd, hi yw ail dalaith fwyaf yr Unol Daleithiau. Mae'r enw yn golygu "ffrindiau" yn yr iaith Caddo. Austin yw prifddinas Texas; y ddinas fwyaf yw Houston.

Thumb
Lleoliad Texas yn yr Unol Daleithiau
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Remove ads

Hanes

Ymhlith llwythi y brodorion cynhenid a oedd yn byw o fewn tiriogaeth presennol Texas roedd yr Apache, Atakapan, Bidai, Caddo, Comanche, Cherokee, Karankawa, Kiowa, Tonkawa, a'r Wichita.

Hyd y gwyddus yr Ewropead cyntaf i fod ar yr ardal oedd Álvar Núñez Cabeza de Vaca ar y 6 Tachwedd 1528 yn dilyn llongddrylliad. Cyn 1821 roedd Texas yn perthyn i diriogaeth Sbaen Newydd. Derbyniodd y Texians Datganiad Annibyniaeth Texas ar Mecsico ar 2 Mawrth 1836. Arweiniodd Sam Houston byddin Texian i fuddugoliaeth yn erbyn y Byddin Mecsico dan Antonio López de Santa Anna ym mrwydr San Jacinto ar 21 Ebrill, 1836. Daeth Houston yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas ar 22 Hydref 1836.

Remove ads

Dinasoedd Texas

1Houston2,257,926
2San Antonio1,373,668
3Dallas1,197,816
4Austin790,390
5Fort Worth741,206
6El Paso649,121
7Arlington365,438
8Corpus Christi305,215
9Plano259,841
10Laredo236,091
11Lubbock229,573
12Garland226,876
13Irving205,540
14Brownsville139,722
15Galveston47,743

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads