Tokyo

prifddinas Japan From Wikipedia, the free encyclopedia

Tokyo
Remove ads

Prifddinas, talaith a dinas fwyaf Japan yw Tōkyō ("Cymorth – Sain" ynganiad Japaneg , 東京, Tokyo neu Tocio yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynys Honshu, ar lan y Cefnfor Tawel. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 37,900,000 (2016)[1][2]. Dyma, felly, dinas fwyaf poblog y byd. Er mai ffigwr llai o tua 14,264,798 (2022) miliwn o bobl sy'n byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu i astudio yn ystod y dydd.[3] Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'r Tenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...

Yn wreiddiol yn bentref pysgota, o'r enw Edo, daeth yn ganolfan wleidyddol amlwg ym 1603, pan ddaeth yn sedd y siogyniaeth[4] Tokugawa. Erbyn canol y 18g, roedd Edo yn un o'r dinasoedd mwyaf poblog yn y byd gyda dros filiwn o bobl.[5] Yn dilyn diwedd y siogyniaeth ym 1868, symudwyd y brifddinas ymerodrol yn Kyoto yma, ac ailenwyd hi'n 'Tokyo' (yn llythrennol: "prifddinas ddwyreiniol").

Cafodd Tokyo ei difrodi gan Ddaeargryn Great Kantō yn 1923, ac eto gan gyrchoedd bomio’r Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan ddechrau yn y 1950au; ailadeiladwyd ac ehangwyd y ddinas yn gyflym, gan fynd ymlaen i arwain adferiad economaidd Japan ar ôl y rhyfel. Ers 1943, mae Llywodraeth Fetropolitan Tokyo wedi gweinyddu 23 ward arbennig y dalaith ('Dinas Tokyo' gynt), amryw drefi gwelyau yn yr ardal orllewinol, a dwy gadwyn o ynysoedd anghysbell.

Tokyo yw'r economi drefol fwyaf yn y byd yn ôl cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP), ac mae'n cael ei chategoreiddio fel dinas Alpha + gan y Rhwydwaith Ymchwil a Dinasoedd y Byd (World Cities Research Network). Rhan o ranbarth diwydiannol sy'n cynnwys dinasoedd Yokohama, Kawasaki, a Chiba, Tokyo yw prif ganolfan busnes a chyllid Japan. Yn 2019, roedd yno 36 o gwmnïau Fortune Global 500.[6] Yn 2020, roedd yn bedwerydd ar y Mynegai Canolfannau Ariannol Byd-eang, y tu ôl i Ddinas Efrog Newydd, Llundain, a Shanghai.[7] Yn Tokyo mae tŵr talaf yn y byd sef y 'Tokyo Skytree' a chyfleuster dargyfeirio dŵr llifogydd tanddaearol mwya'r byd: MAOUDC.[8] Llinell Metro Ginza Tokyo yw'r llinell metro danddaearol hynaf yn Nwyrain Asia (1927).[9]

Remove ads

Geirdarddiad

Fe ddaw'r enw o gyfuno Tō- (dwyrain) a -kyō (prifddinas) i greu 'Prifddinas Ddwyreiniol'. Roedd prifddinasoedd eraill yn bod cyn Tokyo, er enghraifft Kyoto a Nara yn ardal Kansai.

Yn wreiddiol, gelwid Tokyo yn Edo (江 戸), gair cyfansawdd o kanji o 江 (e, "cildraeth, cilfach") ac 戸 (i, "mynediad, giât, drws").[10] Mae'r enw, y gellir ei gyfieithu fel "aber", yn gyfeiriad, felly, at leoliad yr anheddiad gwreiddiol yng nghymer Afon Sumida a Bae Tokyo. Yn ystod Adferiad Meiji ym 1868, newidiwyd enw'r ddinas i Tokyo.[11]

Remove ads

Gweinyddiaeth

Thumb
'Ardal adloniant' Shinjuku gyda'r nos

Un o daleithiau Japan yw dinas Tokyo, ond mae strwythur go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel, rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysur Shinjuku.

Poblogaeth y ddinas gyfan yw 12,064,101 (2002 a'i faint yw 2186.9 km². Tokyo, Kanagawa, Saitama a Chiba sy'n ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, gyda tua 36 miliwn o bobl yn byw ynddi.

Remove ads

Hanes

Sefydlwyd Tokyo ym 1457 ond yr enw gwreiddiol oedd Edo (戸). Ym 1603 daeth yn brif ddinas y siogyniaeth Tokugawa, ond roedd y Tenno yn dal i fod yn Kyoto, gwir brifddinas y wlad. Daeth y Shogunat i ben ym 1868 a gorchmynnodd Meiji Tenno i newid enw y dref i Tokyo a symud y brif ddinas yno.

Yn ystod y cyfnod Edo, mwynhaodd y ddinas gyfnod hir o heddwch o'r enw Pax Tokugawa, ac mewn heddwch o'r fath, mabwysiadodd Edo bolisi o ynysu ei hun o'r byd mawr, ac ni chafwyd unrhyw fygythiad milwrol difrifol i'r ddinas.[12] Fe wnaeth absenoldeb rhyfel ganiatáu i Edo neilltuo mwyafrif ei adnoddau i ailadeiladu (yn dilyn tanau cyson, daeargrynfeydd, a thrychinebau naturiol dinistriol eraill). Fodd bynnag, daeth y cyfnod hir hwn o neilltuaeth i ben gyda dyfodiad y Comodore Americanaidd Matthew C. Perry ym 1853. Gorfododd y Comodore Perry fod porthladdoedd Shimoda a Hakodate yn agor, gan arwain at gynnydd yn y galw am nwyddau tramor newydd a chanlyniad hynny oedd cynnydd difrifol mewn chwyddiant.[12][13]

Ym 1923 tarodd daeargryn mawr yr ardal a lladdwyd tua 100,000 o bobl a dinistrio llawer o adeiladau.[14] Cafodd y dref ei hail-adeiladu ond fe'i dinistrwyd eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl hynny daeth Japan dan reolaeth yr Unol Daleithiau a roedd Tokyo yn bencadlys o dan y Cadfridog Douglas MacArthur.

Ar ôl y rhyfel tyfodd yr economi yn gyflym. Ym 1964 cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yn y ddinas. Ers y 1970au mae llawer o bobl wedi symud i Tokyo o gefn gwlad Japan ac yn ystod bwrlwm economaidd yr 1980au roedd hi'n ddinas fywiog yn llawn siopau, tafarndai, busnesau ac fe adeiladwyd tai ledled y ddinas. Daeth y bwrlwm economaidd i ben yn y 1990au, ond er hynny mae Tokyo yn ganolfan economaidd pwysig i ddwyrain Asia a gweddill y byd.

Ar 20 Mawrth 1995 bu ymosodiad terfysgol gan ddefnyddio nwy nerfau Sarin mewn trên tanddaearol gan Aum Shinrikyo. Cafodd 12 o bobl eu lladd a miloedd yn dioddef canlyniadau'r ymosodiad.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa Genedlaethol
  • Amgueddfa Shitamachi
  • Creirfa Yasukuni
  • Palas Ymerodrol
  • Pont Enfys
  • Tŵr Tokyo
  • Yūshūkan

Daearyddiaeth

Mae Tokyo yn cynnwys ardal ar Honshu, ynys fwyaf Japan a nifer o ynysoedd bychain (Ynysoedd Izu ac Ynysoedd Ogasawara) ym Mae Tokyo a'r Cefnfor Tawel, rhai ohonyn mor bell a 1,000 km o'r tir mawr. Y taleithiau cyfagosaf ac sydd hefyd yn rhan o Ardal Tokyo Fwyaf yw Kanagawa, Saitama a Chiba.

Wardiau

Thumb
Cae Rasus Ceffylau Tokyo, yn Shinagawa

Mae 23 wardiau arbennig yn Tokyo, pob un gyda'i maer a'i chyngor:

  • Adachi
  • Arakawa
  • Bunkyo
  • Chiyoda
  • Chuo
  • Edogawa
  • Itabashi
  • Katsushika
  • Kita
  • Koto
  • Meguro
  • Minato
  • Nakano
  • Nerima
  • Ota
  • Setagaya
  • Shibuya
  • Shinagawa
  • Shinjuku
  • Suginami
  • Sumida
  • Toshima
  • Taito

Dinasoedd

Mae nifer o ddinasoedd (yn Japan, mae hynny fel arfer yn golygu trefi gyda mwy nag 50,000 o bobl yn bwy ynddynt) yn Tokyo, hefyd:

  • Akiruno
  • Akigawa (nawr Akiruno)
  • Akishima
  • Chofu
  • Fuchu
  • Fussa
  • Hachioji
  • Hamura
  • Higashikurume
  • Higashimurayama
  • Higashiyamato
  • Hino
  • Hoya (nawr Nishi-tokyo)
  • Inagi
  • Kiyose
  • Kodaira
  • Koganei
  • Kokubunji
  • Komae
  • Kunitachi
  • Machida
  • Mitaka
  • Musashimurayama
  • Musashino
  • Nishi-tokyo
  • Ome
  • Tachikawa
  • Tama
  • Tanashi (nawr Nishi-tokyo)

Ardaloedd, trefi a phentrefi

  • Nishitama
    • Hinohara
    • Hinode
    • Itsukaichi (heddiw, Akiruno)
    • Mizuho
    • Okutama

Trefi a phentrefi ar ynysoedd:

  • Hachijo sub-prefecture
    • Aogashima
    • Hachijo
  • Miyake sub-prefecture
    • Mikurajima
    • Miyake
  • Ogasawara sub-prefecture
    • Ogasawara
  • Oshima sub-prefecture
    • Kozushima
    • Niijima
    • Oshima
    • Toshima
Remove ads

Economeg

Canolbarth economeg Siapan yw Tokyo. Lleoliad pencadlysoedd y mwyafrif o fusnesau fel y wasg, teledu, telethrebiaeth, bancio, yswiriant, ac ati, yw Tokyo ac mae'r mwyafrif o fusnesau tramor yn y dref, hefyd.

Busnesau gyda phencadlys yn Tokyo

  • All Nippon Airways
  • Casio
  • East Japan Railway Company
  • Fujitsu
  • Honda
  • Japan Airlines
  • JFE Group
  • Keio Electric Railway
  • Mitsubishi
  • Mitsui
  • Mitsukoshi
  • Mizuho Financial Group
  • Nomura Group
  • NTT
  • Odakyu
  • Resona
  • SEGA
  • Sojitz
  • Sony
  • Sumitomo
  • Tokio Marine and Fire Insurance
  • Tokyu
  • Toshiba
Remove ads

Demograffeg

Yn ôl oed (2002):

  • Pobl ifanc (0-14): 1.43 miliwn (12%)
  • Pobl oed gweithio (15-64): 8.5 miliwn (71.4%)
  • Pobl hŷn (65+): 1.98 miliwn (16.6%)

Pobl yn dod o wledydd tramor: 327,000 (2001)

Tyfiad net y boblogaeth: +68,000 (rhwng 2000 a 2001)

Prifysgolion

Prifysgolion enwocaf Tokyo yw:

  • Prifysgol Daito Bunka
  • Prifysgol Gakushuin
  • Prifysgol Hitotsubashi
  • Prifysgol Hosei
  • Prifysgol Keio (Keio Gijuku)
  • Prifysgol Kokugakuin
  • Prifysgol Meiji Gakuin
  • Prifysgol Meiji
  • Prifysgol Nihon
  • Prifysgol Sophia
  • Athrofa Technoleg Tokyo
  • Prifysgol Tokyo Metropolitan
  • Prifysgol Tokyo
  • Prifysgol Waseda
  • Prifysgol Tokai

Enwogion

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads