Tours
endid tiriogaethol gweinyddol, Ffrainc From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas a commune yng nghanolbarth Ffrainc yw Tours. Hi yw prifddinas département Indre-et-Loire a dinas fwyaf région Centre-Val de Loire. Saif ar afon Loire, gerllaw ei chymer ag afon Cher. Mae'n ffinio gyda Chambray-lès-Tours, Joué-lès-Tours, Mettray, Notre-Dame-d'Oé, Parçay-Meslay, La Riche, Rochecorbon, Saint-Avertin, Saint-Cyr-sur-Loire, Saint-Pierre-des-Corps ac mae ganddi boblogaeth o tua 411,106 (2023)[1]. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 136,942.

Daw'r enw o enw llwyth Celtaidd y Turones. Ymladdwyd Brwydr Tours rhwng Tours a Poitiers ym mis Hydref 732, pan orchfygodd y Ffranciaid dan Siarl Martel fyddin Fwslimaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi.
Daeth Tours yn ganolfan eglwysig bwysig, ac yn y Canol Oesoedd yn gyrchfan boblogaidd i bererionion oherwydd bri Sant Martin o Tours, ail esgob Tours. Esgob enwog arall oedd Sant Gregori o Tours (c. 538 – 594). Daeth yn brifddinas rhanbarth Touraine.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Eglwys Gadeiriol Sant Gatien
- Pont Wilson
- Prifysgol François Rabelais
Enwogion
- Jean Fouquet (1420-1481), arlunydd
- Honoré de Balzac (1799-1850), nofelydd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

