Tyrus

dinas yn Libanus From Wikipedia, the free encyclopedia

Tyrus
Remove ads

Dinas yn Libanus yw Tyrus, Groeg: Τύρος Týros. Saif ger y môr yn ne Libanus, tua 80 km i'r de o Beirut. Gyda poblogaeth yn 117,100, hi yw'r bedwaredd dinas yn Libanus o ran maint.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Bwa yn Tyrus

Mae Tyrus yn hen ddinas Ffenicaidd, ac yn ôl mytholeg yn fan geni Europa ac Elissa (Dido). Enwyd yr Hippodrome Rhufeinig fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Yn ôl Herodotus, sefydlwyd Tyrus tua 2750 CC, ac mae cofnodion amdani yn dyddio o tua 1300 CC. Daeth yn ddinas fwyaf nerthol Ffenicia, a sefydlodd lawer o wladychfeydd; Carthago yw'r enwocaf o'r rhain. Roedd y ddinas yn nodedig am gynhyrchu lliw porffor arbennig, porffor Tyrus.

Am gynodau bu'r ddinas dan reolaeth yr Aifft, yna'n ddiweddarachg yn rhan o Ymerodraeth Persia. Yn 332 CC, cipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr, brenin Macedon, wedi gwarchae o saith mis. Yr adeg honno roedd Tyrus ar ynys fechan, felly adeiladodd byddin Alecsander gob i gysylltu'r ddinas a'r tir mawr. Ad-enillodd y ddinas ei hanibyniaeth oddi wrth yr Ymerodraeth Seleucaidd yn 126 CC. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r ymerodraeth Rufeinig.

Cipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 1124, a daeth yn un o ddinasoedd pwysicaf Teyrnas Jeriwsalem a phencadlys archesgobaeth Tyrus. Ad-enillwyd y ddinas i Islam yn 1291.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads