Ullapool

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ullapool
Remove ads

Tref fechan yn Ross a Cromarty, yn Ucheldiroedd yr Alban, yw Ullapool (Gaeleg yr Alban: Ullapul neu Ulapul). Mae ganddi boblogaeth o 1,307, ond serch hynny Ullapool yw'r dref fwyaf mewn ardal eang o ogledd-orllewin yr Alban.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Sefydlwyd Ullapool yn 1788 fel porthladd pysgota penwaig, wedi'i chynllunio gan Thomas Telford, ar lan dwyreiniol Loch Broom. Mae'r harbwr yn cael ei defnyddio gan gychod pysgota a chychod hwylio ac yn borth fferi ar gyfer teithiau i Stornoway ar Leòdhas yn Ynysoedd Heledd. Yn ogystal mae gan y dref amgueddfa fach, canolfan celf, pwll nofio a thafarndai, ac mae'n boblogaidd gan gerddwyr ac ymwelwyr eraill. Mae'r traddodiad cerddorol yn gryf yn Ullapool.

Mae gorsaf radio leol Loch Broom FM ar 102.2 MHz yn gwasanaethu'r dref.

Thumb
Harbwr Ullapool
Remove ads

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads