Via Appia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Via Appia
Remove ads

Ffordd Rufeinig yn cysylltu dinas Rhufain a Brindisium (Brindisi heddiw) yn Apulia yn ne-ddwyrain yr Eidal yw'r Via Appia. Gyda'r Via Latina, y Via Flaminia a'r Via Salaria, roedd yn un o'r ffyrdd pwysicaf oedd yn cysylltu'r brifddinas a'r gweddill o'r ymerodraeth.

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...

Dechreuwyd adeiladu'r Via Appia yn 312 CC gan Appius Claudius Caecus, a chafodd ei henwi ar ei ôl ef. Yn wreiddiol, roedd y ffordd o Rufain i Capua, ond yn ddiweddarach ymestynnwyd hi i Brindisium.

Gelwid y ffordd yn regina viarum (brenhines y ffyrdd) oherwydd ei phwysigrwydd. Mae'r ffordd yn dal i'w gweld yn Rhufain, lle gelwir hi y Via Appia Antica, yn arwain trwy'r Parco Appia Antica ac allan o'r Porta San Sebastiano, gynt y Porta Appia. Yn 71 CC, wedi gorchfygu byddin Spartacus, croeshoeliodd Marcus Licinius Crassus 6,000 o garcharorion ar hyd y Via Appia. Yn rhywle ar y ffordd yma tu allan i Rufain, yn ôl traddodiad, y cyfarfu'r Apostol Pedr, oedd yn ffoi o'r ddinas, a Iesu Grist. Holodd Pedr, Domine Quo Vadis? ("Arglwydd, i ble rwyt ti'n mynd?"), a chafodd yr ateb "I Rufain, i'm croesheolio yn dy le di". Dychwelodd Pedr i Rufain, lle croeshoeliwyd ef. Gerllaw mae Catacombau Sant Callixtus.

Mae'r rhan o'r ffordd sydd wedi ei chadw orau tua 2.1 km tu allan i fur y ddinas.

Thumb
Y via Appia (mewn coch)
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads