Viacom
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Casgliad o gwmnïau cyfryngau Americanaidd yw Viacom. Daeth y cwmni presennol, Viacom Inc, i fodolaeth yn dilyn ei ymwahaniad o'r cwmni Viacom gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2005. Ar yr un pryd, newidiodd y cwmni Viacom gwreiddiol ei enw i CBS Corporation.
Prif fusnesau Viacom yw ei rhwydweithiau teledu cebl a brandiau adloniant, gan gynnwys MTV Networks (MTV, Nickelodeon, VH1, Comedy Central a rhwydweithiau eraill dros y byd), y grŵp cynhyrchu ffilmiau Paramount Pictures (sy'n cynnwys DreamWorks), Paramount Home Entertainment, BET, a Famous Music.
Mae cyfranddaliadau Viacom wedi'u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Efrog Newydd, ond rheolir y cwmni gan ei gadeirydd, Sumner Redstone, trwy ei gwmni National Amusements, Inc., sy'n berchen yn anuniongyrchol ar y mwyafrif o gyfranddaliadau Viacom.
Remove ads
Dolenni allanol
- Gwefan Viacom (yn Saesneg)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads