Wayne Shorter
cyfansoddwr a aned yn 1933 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sacsoffonydd a chyfansoddwr jazz o bwys yw Wayne Shorter (ganwyd 25 Awst 1933; m. 2 Mawrth 2023). Daeth i'r amlwg ym mand Art Blakey yn y 1960au cynnar cyn ennill enwogrwydd sylweddol, yn gyntaf yn aelod o fandiau Miles Davis rhwng 1964 a 1970 ac ers hynny, fel un o gyd-arweinwyr y band Weather Report ac ar nifer o recordiau o dan ei enw ef ei hunan.
Yn ogystal â bod yn sacsoffonydd dylanwadol, Shorter yw un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw jazz ers y 60au. Roedd lle blaenllaw i'w gyfansoddiadau ym mherfformiadau bandiau Blakey a Davis, ac ef oedd un o brif gyfansoddwyr Weather Report.
Remove ads
Recordiau (detholiad)
- Speak no Evil, 1964
- Adam's Apple, 1966
- Atlantis, 1985
- Footprints Live!, 2001
Gyda Weather Report:
- Weather Report, 1970
- Heavy Weather, 1977
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
