Ynys Gored Goch
ynys yn y Fenai From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Ynys Gored Goch yn ynys fechan yn Afon Menai, rhwng Pont Britannia a Phont Y Borth, yng ngogledd Cymru. Mae'r ynys yn rhan o blwyf Llanfairpwllgwyngyll, ar Ynys Môn.
Am ei bod mor isel mae hi wastad mewn perygl o gael ei gorlifo gan y llanw uchel (fel mae'r llun yn dangos).
Mae'n cael ei henwi yn ôl yr hen gored a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol i ddal pysgod y môr.
Heb fod ymhell ohoni mae Pwll Ceris ac Ynys Welltog.

Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads