Ynysfor Chagos

From Wikipedia, the free encyclopedia

Ynysfor Chagos
Remove ads

Grŵp o saith atol yng Nghefnfor India yw Ynysfor Chagos sy'n cynnwys mwy na 60 o ynysoedd.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Yn swyddogol yn rhan o Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India, roedd y Chagos yn gartref i'r Chagosiaid, pobl sy'n siarad Bourbonnais Creole, am fwy na chanrif a hanner nes i'r Deyrnas Unedig ei hel allan rhwng 1967 ac 1973 i adael yr Unol Daleithiau adeiladu orsaf filwrol ar Diego Garcia, yr ynys fwyaf. Ers 1971, dim ond atol Diego Garcia sydd â phobl arno, a dim ond phersonél a staff yr orsaf filwrol yn unig.

Mae dadl am sofraniaeth ynysfor Chagos rhwng y DU a Mauritius. Torrodd y Deyrnas Unedig yr ynysfor allan o diriogaeth Mauritius yn 1965, dair blynedd cyn i'r wlad ennill annibyniaeth yn 1968.[1][2]

Ar 25 Chwefror 2019, dyfarnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol y dylai'r Deyrnas Unedig ildio perchnogaeth yr ynysfor. Gwrthododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw awdurdod i'r llys benderfynu ar y materion hyn.[3][4]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads