Ôl-drefedigaethedd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Damcaniaeth, neu faes sydd yn cwmpasu sawl damcaniaeth gysylltiedig, yw ôl-drefedigaethedd[1] (hefyd ôl-drefedigaethrwydd neu ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol) sydd yn dadansoddi, egluro, ac ymateb i waddolion trefedigaethrwydd ac imperialaeth yr oes fodern drwy ddulliau beirniadol. Term eang ydyw sy'n cwmpasu disgyblaeth academaidd, fframwaith damcaniaethol ac epistemolegol, moeseg, ac ideoleg wleidyddol neu fydolwg, a gall hefyd gyfeirio'n gyffredinol at y cyfnod hanesyddol neu'r cyflwr materion rhyngwladol a ddilynodd yr oes drefedigaethol.[2] Damcaniaeth amlddisgyblaethol ydyw sydd yn ymdrin ag athroniaeth, gwyddor gwleidyddiaeth, ffeministiaeth, damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, a beirniadaeth lenyddol, ymhlith nifer o feysydd eraill, ac yn canolbwyntio ar y dylanwadau ac effeithiau gwleidyddol, economaidd, diwylliannol, a chymdeithasol a gâi trefedigaethrwydd ar y cyn-drefedigaethau.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, ideoleg ![]() |
---|---|
Math | normative science ![]() |
![]() |
Datblygodd ôl-drefedigaethedd yn ystod ail hanner yr 20g fel ymateb i etifeddiaeth trefedigaethrwydd, yn enwedig yn sgil datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd. Arloeswyd y maes gan ysgolheigion o gyn-drefedigaethau a ddechreuodd arsylwi ar effeithiau parhaol yr hen drefn drefedigaethol ar eu gwledydd newydd-annibynnol, gan dynnu ar ddamcaniaeth feirniadol i ddadansoddi hanes, diwylliannau, a disgyrsiau gwleidyddol a llenyddol y pwerau imperialaidd. Mae ôl-drefedigaethedd yn ymdrin â'r trefedigaethwr yn ogystal â'r trefedigaethedig, ac yn canolbwyntio ar y cyfarfyddiadau rhwng y ddwy gymdeithas, gan gynnwys cyfnewid diwylliannol, hiliaeth, ymelwa economaidd, rhyfel a gwrthryfel, a llywodraeth. Mae damcaniaethwyr ôl-drefedigaethol enwog yn cynnwys Edward Said, Frantz Fanon ac Homi K. Bhabha.