Arnold Schoenberg
cyfansoddwr a aned yn 1874 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr o Awstria oedd Arnold Schoenberg neu Schönberg[1] (13 Medi 1874 – 13 Gorffennaf 1951). Trwy ei gyfansoddiadau ac fel athro, cafodd ddylanwad aruthrol ar gerddoriaeth yng nghanol yr 20g. Fel cyfansoddwr Iddewig, fe'i herlidiwyd gan y Blaid Natsïaidd, a labelodd ei weithiau fel Entartete Musik ("cerddoriaeth ddirywiedig") a'u gwahardd rhag cael eu cyhoeddi. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1933, a daeth yn ddinesydd o'r wlad honno yn 1941.
Arnold Schoenberg | |
---|---|
Schoenberg yn Los Angeles, tua 1948 | |
Ganwyd | Arnold Franz Walter Schönberg 13 Medi 1874 Fienna |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1951 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Awstria, Unol Daleithiau America, Awstria-Hwngari, yr Almaen |
Galwedigaeth | cyfansoddwr clasurol, arlunydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, ysgrifennwr, arweinydd, cyfansoddwr, athro cerdd, arlunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Erwartung, Verklärte Nacht, A Survivor from Warsaw |
Arddull | cerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif, opera, digyweiredd, cyfresiaeth, cerddoriaeth glasurol, Mynegiadaeth, techneg deuddeg-nodyn |
Tad | Samuel Schönberg |
Priod | Gertrud Schoenberg, Mathilde Zemlinsky |
Plant | Gertrud Schönberg, Georg Schönberg, Nuria Nono-Schönberg, Ronny Schönberg, Larry Schönberg |
Gwefan | https://www.schoenberg.org |
Roedd ei gerddoriaeth gynnar yn ymestyn arddulliau cerddorol y cyfansoddwyr Rhamantaidd Brahms a Wagner – arddulliau a ystyriwyd yn anghydnaws yn flaenorol. Roedd yn arbennig o gysylltiedig â'r mudiad Mynegiadaeth ym marddoniaeth a chelf yr Almaen. Datblygodd arddull a oedd yn eithafol yn ei ddefnydd o gromatyddiaeth, mor eithafol fel y daeth i gael ei labelu yn ddigywair; hynny yw, yn perthyn i ddim cywair adnabyddadwy. Yn y 1910au datblygodd y dechneg deuddeg-nodyn, dull o systemateiddio'r defnydd o bob un o'r deuddeg nodyn yn y raddfa gromatig. O'r 1920au ymlaen cafodd y dechneg ddylanwad mawr ar sawl cenhedlaeth o gyfansoddwyr yn Ewrop a Gogledd America.
Yr oedd Schoenberg yn athro cyfansoddi dylanwadol; roedd ei fyfyrwyr yn Ewrop yn cynnwys Alban Berg, Anton Webern, Hanns Eisler, Egon Wellesz, Nikos Skalkottas a Robert Gerhard, ac yn ddiweddarach yn America, John Cage, Lou Harrison, Earl Kim, Leon Kirchner a Dika Newlin.