baner From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae baner Undeb Cenhedloedd De America neu baner UNASUR; (Sbaeneg: Unión de Naciones Suramericanas, UNASUR; Portiwgaleg: União de Nações Sul-Americanas, UNASUL; Iseldireg: Unie van Zuid-Amerikaanse Naties, UZAN;) Adnebir y corff fel rheol gan ei thalfyriad Sbaeneg, UNASUR. Mae Undeb Cenhedloedd De America yn gorff rhyng-lywodraethol rhanbarthol sy'n cynnwys 12 gwladwrieth yn Ne America. Arwyddwyd Cytundeb Drafod y corff ar 23 Mai 2008 ond bu trafferthion a diffyg cyd-dynnu ers hynny. Er mai dyma'r faner neu'r logo a ddefnyddir gan UNASUR nid yw wedi ei fabwysiadu'n swyddogol gan y corff.
Enghraifft o'r canlynol | baner |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2008 |
Mae'r baner yn cynnwys maes las gyda cyfes o linellau gwyn sy'n ymdebygu i gorwynt ond sy'n debyg mewn siap i gyfandir De America.
Ceir hefyd faner arall rhyng-De America. Cynigiwyd hi gan Arlywydd Periw, Alan Garcia, yn 2008. Mae'r faner yma yn goch ac arni fap o Dde America oddi fewn i gylch. Mae'r faner yn goch a'r map a'r cylch yn aur. Ysbrydolwyd a seiliwyd y faner yma gan gynllun blaemorol y gwleidydd a'r athronydd o Beriw, Victor Raul Haya de la Torre.[1] Roedd Haya o blaid undod gwledydd y cyfandir i greu gor-wladwrieth Indoamerica. Datblygwyd y syniadau yma yn yr 1920au a 30au. Roedd baner wreiddiol Hoya yn cynnwys map aur o Dde America o fewn cylch neu glôb gwyrdd ar lain goch. Addaswyd hwn yn hwyrach i fod yn faner deuliw, map De America a chylch aur ar gefndir coch.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.