![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7b/Bellhooks.jpg/640px-Bellhooks.jpg&w=640&q=50)
bell hooks
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur Americanaidd, athro, ffeminydd, ac actifydd cymdeithasol oedd Gloria Jean Watkins (25 Medi 1952 – 15 Rhagfyr 2021), a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei ffugenw bell hooks.[1] Roedd yr enw "bell hooks" wedi'i fenthyg gan ei hen-nain ar ochr ei mam, Bell Blair Hooks.[2]
Bell hooks | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | bell hooks ![]() |
Ganwyd | Gloria Jean Watkins ![]() 25 Medi 1952 ![]() Hopkinsville ![]() |
Bu farw | 15 Rhagfyr 2021 ![]() o methiant yr arennau ![]() Berea ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, academydd, ysgrifennwr ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Ain't I a Woman?, All About Love: New Visions, We Real Cool: Black Men and Masculinity, Feminist Theory: From Margin to Center, Bone Black: Memories of Girlhood ![]() |
Prif ddylanwad | Sojourner Truth, Paulo Freire, Gustavo Gutiérrez, Erich Fromm, Lorraine Hansberry, Nhat Hanh, James Baldwin, Malcolm X, Martin Luther King, Toni Morrison ![]() |
Gwobr/au | Gwobrau Llyfrau Americanaidd ![]() |
Ffocws ysgrifennu hooks oedd y rhyngblethedd rhwng hil, cyfalafiaeth a rhywedd, a'r hyn a ddisgrifiodd fel eu gallu i greu a rhoi parhad i systemau o ormes a thra-awdurdod dosbarth. Cyhoeddodd fwy na 30 o lyfrau a nifer o erthyglau ysgolheigaidd, ymddangosodd mewn ffilmiau dogfen, a traddododd ddarlithoedd cyhoeddus gan drafod hil, dosbarth, rhyw, celf, hanes, rhywioldeb, cyfryngau torfol, a ffeministiaeth. Yn 2014, sefydlodd y Sefydliad bell hooks yng Ngholeg Berea yn Berea, Kentucky.[3]