Brad Pitt
cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Shawnee yn 1963 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a chynhyrchydd ffilmiau Americanaidd yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un o Wobrau Golden Globe ac un o Wobrau'r Academi.
Brad Pitt | |
---|---|
Ganwyd | William Bradley Pitt 18 Rhagfyr 1963 Shawnee |
Man preswyl | Springfield, Missouri, Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor llais, model, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd teledu |
Taldra | 1.8 metr |
Tad | William Alvin Pitt |
Mam | Jane Etta Hillhouse |
Priod | Jennifer Aniston, Angelina Jolie |
Partner | Juliette Lewis, Gwyneth Paltrow, Jennifer Aniston, Angelina Jolie |
Plant | Shiloh Jolie-Pitt, Knox Jolie-Pitt, Vivienne Jolie-Pitt |
Perthnasau | Maddox Jolie-Pitt, Pax Jolie-Pitt, Zahara Jolie-Pitt |
Gwobr/au | Gwobr Cymdeithas Adolygwyr Ffilm Boston i'r Actor Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Cast Gorau, Gwobr Cymdeithas Genedlaethol Adolygwyr Ffilm i'r Actor Gorau, Gwobr y 'New York Film Critics' am yr Actor Gorau, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Phoenix am y Cast Gorau, Gwobr Cymdeithas Adolygwyr Ffilm San Diego i'r Perfformiad Gorau gan Ensemble, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Gwobr Rembrandt, Saturn Award for Best Supporting Actor, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Golden Globes, British Academy Film Awards, Volpi Cup for Best Actor, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100 |
Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm Thelma & Louise (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm Interview with the Vampire (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol Se7en a'r ffilm wyddonias Twelve Monkeys. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm Fight Club (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd Ocean's Eleven (2001), Spy Game (2001), Troy (2004), y comedi antur Mr. & Mrs. Smith (2005), a Burn After Reading (2008).