Caewr bachyn-a-dolen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae caewr bachyn-a-dolen (fel arfer yn cael ei gyfeirio ato fel felcro, sef Cymreigeiddiad o'r nod masnach Velcro, er gwaethaf gwrthwynebiad y brand[1]) yn cynnwys dwy elfen: yn nodweddiadol, dwy stribed unionsyth ffabrig (neu, fel arall, "dotiau" crwn neu sgwariau) sydd wedi'u cysylltu i arwynebau croes fel y gellir eu cau. Mae'r cydran gyntaf yn cynnwys bachau bach, mae'r ail yn cynnwys dolenni llai. Pan gaiff y ddau eu gwasgu at ei gilydd mae'r bachau yn dal yn y dolenni a'r ddau ddarn yn cau neu'n rhwymo dros dro. Pan fyddant yn cael eu gwahanu, trwy dynnu neu bilio'r ddau arwyneb ar wahân, mae'r stribedi'n gwneud sŵn “rhwygo” nodedig.
Math | fastener |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1941 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd y caewr bach-a-dolen gwreiddiol ei greu ym 1941 gan beiriannydd o'r Swistir o'r enw George de Mestral.[2][3][4] Daeth y syniad iddo un diwrnod ar ôl dychwelyd o daith hela gyda'i gi yn yr Alpau. Cymerodd olwg fanwl ar bigau (hadau) y cacimwnci a oedd yn glynu i'w ddillad a ffwr ei gi. Archwiliodd nhw o dan ficrosgop, a sylwodd ar eu cannoedd o "fachau" oedd yn glynu i unrhyw beth gyda dolen, fel dillad, ffwr anifeiliaid, neu wallt.[5] Gwelodd y posibilrwydd o rwymo dau ddefnydd mewn ffordd syml pe gallai weithio allan sut i ddyblygu'r bachau a'r dolenni.[2][4] Mae bachyn-a-dolen yn cael ei weld gan rai fel Steven Vogel [6] neu Werner Nachtigall [7] fel enghraifft allweddol o ysbrydoliaeth o natur neu gopïo o fecanweithiau natur (a elwir yn bionics neu biomimesis).