Carson McCullers
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd, dramodydd ac awdures straeon byrion o Americanes oedd Carson McCullers (Lula Carson Smith) (19 Chwefror, 1917 – 29 Medi, 1967).
Carson McCullers | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1917 Columbus, Georgia |
Bu farw | 29 Medi 1967 o gwaedlif ar yr ymennydd Nyack, Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, dramodydd, ysgrifennwr, sgriptiwr, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | The Heart Is a Lonely Hunter, The Member of the Wedding |
Mam | Marguerite Waters Smith |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gorchest Merched Georgia, Cymrodoriaeth Guggenheim |
Gwefan | http://carson-mccullers.com |
llofnod | |
Cafodd ei geni yn Columbus, Georgia. Priododd Reeves McCullers ym 1937, a wnaethont ysgaru a phriodi eto. Roedd Carson a Reeves yn ddeurywiol.[1] Roedd y ddau ohonynt hefyd yn ysmygu ac yn yfed alcohol yn drwm. Lladdodd Reeves ei hunan ym 1953. Ar ôl bywyd o iechyd gwael, bu farw Carson McCullers o strôc ym 1967.
Gelwir ei harddull yn aml yn Gothig De'r Unol Daleithiau. Roedd ei gwaith yn enwog am bortreadu trefi unig ac adfeiliedig, ac ymddieithriad cymdeithasol a rhywiol eu trigolion.[1] Yn ôl Michiko Kakutani, beirniad llenyddol The New York Times, prif thema ei ffuglen yw "unigrwydd unigolion ynysedig a'u hawydd llafurus am berthynas".[2] Galwodd Gore Vidal waith McCullers yn "un o'r ychydig o lwyddiannau digonol ein diwylliant eilradd".[3]