Dadansoddiad rhifiadol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dadansoddiad rhifiadol (Saesneg: Numerical analysis) yw'r astudiaeth o algorithmau sy'n defnyddio brasamcan rhifiadol (yn hytrach na thrin a thrafod symbolau) ar gyfer problemau dadansoddi mathemategol (yn wahanol i fathemateg arwahanol sef discrete mathematics).
Enghraifft o'r canlynol | maes o fewn mathemateg |
---|---|
Rhan o | algorithmeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, mathemateg cyfrifiadurol, mathemateg gymhwysol |
Yn cynnwys | algebra rhifiadol linol, dulliau rhifiadol hafaliadau differol cyffredin, rhifiadau a ddilyswyd, algorithm gwerth eigen, algorithm integradwy, mathemateg optimeiddiol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae dadansoddiad rhifiadol yn cael ei gymhwyso ym mhob maes peirianneg a'r gwyddorau ffisegol yn naturiol iawn, ond yn yr 21g hefyd mae'r gwyddorau bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, meddygaeth, busnes a hyd yn oed y celfyddydau wedi mabwysiadu elfennau o gyfrifo gwyddonol. Mae'r twf yng nghryfder a chyflymder y cyfrifiadur wedi cynyddu'r defnydd o fodelau mathemategol realistig mewn gwyddoniaeth a pheirianneg, ac mae angen dadansoddiad rhifiadol cynnil i roi'r modelau manwl hyn o'r byd ar waith. Er enghraifft, mae hafaliad differol cyffredin yn ymddangos mewn mecaneg wybrennol (sy'n darogan symudiad planedau, sêr a galaethau); mae algebra llinol rhifiadol yn bwysig ar gyfer dadansoddi data;[2] mae hafaliadau dufferol stocastig a chadwyni Markov yn hanfodol wrth efelychu celloedd byw mewn meddygaeth a bioleg.[3][4][5]
Mae'r safbwynt rhifiadol yn mynd yn ôl i'r ysgrifau mathemategol cynharaf. Ceir tabled yng Nghasgliad Babilonaidd Prifysgol Iâl (7289), yn rhoi brasamcan rhifiadol o Ail isradd 2, hyd y groeslin mewn sgwâr.[6] Mae dadansoddiad rhifiadol yn parhau â'r traddodiad hir hwn: yn hytrach nag atebion symbolaidd union, mae'n rhoi atebion bras o fewn ffiniau gwallau penodol. Cyn cyfrifiaduron modern, roedd dull rhifiadol yn aml yn dibynnu ar fformiwlâu rhyngosod â llaw rhyngosod, gan ddefnyddio data o dablau print, mawr. Ers canol yr 20g, mae cyfrifiaduron yn cyfrifo'r ffwythiannau gofynnol, ond mae llawer o'r un fformwlâu yn parhau i gael eu defnyddio yn algorithmau'r meddalwedd.[6]