Dewinio
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae dewinio [hefyd dewino; Saesneg: Dowsing] yn ffurf ar ddewiniaeth sy'n cael ei ddefnyddio i leoli dŵr tanddaearol, metelau neu fwynau sydd wedi'u claddu, gemau, olew, mannau claddu,[1] a nifer o wrthrychau neu ddeunyddiau eraill, heb ddefnyddio offer gwyddonol. Mae dewinio yn cael ei ystyried yn ffugwyddoniaeth, ac nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol ei fod yn fwy effeithiol na dyfalu neu ddewis ar hap.[2][3]
Gwialen ddewinio, o lyfr Ffrangeg am ofergoeliaeth, 18fed ganrif | |
Enghraifft o'r canlynol | techneg |
---|---|
Math | darogan, ymgais, psychic ability, ffugwyddoniaeth |
Dechreuwyd | 15 g |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn aml, bydd gwialen neu frigyn siap 'Y', neu ddau sy'n siap 'L', fel gwialen ddewinio (Lladin: 'virgula divina' neu 'baculus divinatorius'; Saesneg: divining rod neu 'witching rod') yn cael eu defnyddio wrth ddewinio.Dywedir bod y gwiail, pan yn cael eu defnyddio gan rai pobl, yn rhoi arwydd pan fydd y gwrthrych neu ddeunydd wedi'i ddarganfod.Mae rhai dewiniaid yn ffafrio brigau neu ganghennau o fathau penodol o goed, ac mae well gan rai ddefnyddio canghennau sydd newydd eu torri. Mae brigau collen yn aml yn cael eu defnyddio yng ngwledydd Ewrop a collen ystwyth yn yr Unol Daleithiau, ynghyd â changhennau coed helyg neu goed eirin gwlanog. Mae dau ben yr ochr fforchiog yn cael eu dal yn bob llaw a'r trydydd (coesyn yr Y) yn pwyntio yn syth ymlaen. Bydd y gangen yn aml yn cael ei dal gyda chledr y llaw tuag at i fyny. Yna mae'r dewin yn cerdded yn araf dros y mannau hynny ble mae'n disgwyl dod o hyd i'r gwrthrych neu ddeunydd (dŵr neu fwynau, er enghraifft), ac mae'n disgwyl i'r wialen symud neu bwyntio at i lawr pan fydd darganfyddiad wedi'i wneud.
Mae symudiad gwiail bellach yn tueddu i gael ei briodoli i ymateb syniadgymhellol.[4][5][6] Mae'n bosib fod dewinio, fel mae'n cael ei adnabod heddiw, wedi tarddu o'r Almaen yn yr 16g, pan oedd yn cael ei ddefnyddio i geisio dod o hyd i fetelau.
Er gwaethaf prinder y dystiolaeth wyddonol, mae dulliau dewinio yn dal i gael eu defnyddio gan rai ffermwyr a pheirianyddion dŵr heddiw.[7][8][9][10][11]